Annwyl Nick
Deiseb P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru.
Efallai y gwyddoch fod y Pwyllgor Deisebau wedi bod yn trafod y ddeiseb uchod; mae manylion llawn y ddeiseb i'w gweld yn y linc isod:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=14311&Opt=0
Buom yn trafod y ddeiseb eto yn ein cyfarfod ar 27 Medi a chytunwyd y dylwn ysgrifennu atoch i ofyn i chi ystyried y ddeiseb fel rhan o'ch ymchwiliad arfaethedig i arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno eich canfyddiadau ac unrhyw argymhellion i'r Pwyllgor Deisebau maes o law.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon eich ymateb trwy e-bost at dîm clercio'r Pwyllgor yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru.
Yn gywir
Mike Hedges AC
Cadeirydd